NODWEDDION
» map defnyddiol
o’r ardal
» mwy
am y bothau
» bydd
ein system graddio
llwybrau newydd yn eich helpu ddewis y rhai iawn ar gyfer
eich galluoedd
|
BEICIO MYNYDD
Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ymffrostio mewn
rhai o’r cyfleoedd gorau ym Mhrydain am feicio mynydd gyda
rhwydwaith anferth o lwybrau amrywiol sydd yn cynnig rhywbeth
i bawb.
Mae’r wefan hon yn cynnwys mapiau a disgrifiadau o 16
o deithiau sydd yn cynnig tipyn o bopeth o
deithiau hamddenol byr a hawdd hwyrddydd haf i deithiau anturus
diwrnod
cyfan.
Maent yn arloesi pob math o dir o gopaon uchel y mynyddoedd
i’r dyffrynnoedd islawr gan gynnig amrywiaeth o heriau
o lwybrau unlon troellog dros rostiroedd i ffyrdd coedwig llydan
ag arwyneb da.
Er mwyn ichi gynllunio eich ymweliad â’r ardal,
mae pob un o’r teithiau yn cychwyn ac yn terfynu mewn un
o’r pum prif ganolfan yr ydym wedi’u galw’n fothau. Graddiwyd y
teithiau hefyd er mwyn eich helpu chi i ddewis y daith iawn am
y dydd a’ch sioncrwydd a galluoedd beicio.
LLWYBRAU ARWYDDIEDIG
Yn ogystal â’r map a’r
disgrifiad a gynhwysir yn y pecyn hwn, gosodwyd arwyddion mewn
mannau strategol ar bob llwybr gyda disgiau bach yn dangos saeth
werdd.
Mae pecynnau
llwybr ar gael ichi eu prynu hefyd.
|
NEWYDD
Mae 16
o lwybrau newydd yn gwneud Bannau Brycheiniog yn gyrchfan
frig ar gyfer beicwyr mynydd. Cewch deithio ar hyd llwybrau
coedwig agored i fyny dringfeydd llac a serth, troellio i lawr
disgyniadau gwych. Dewch o hyd i rai o’r disgyniadau
serthaf a mwyaf heriol. Os am deithiau geirwon dros rostir
neu deithiau hamddenol trwy gefn gwlad cyfareddol, dyma le
y mae!
BYDDWCH YN DIOGEL
Cyn i chi fentro allan edrychwch ar ein cyngor
diogelwch. Byddwch yn beicio ar draws tir amaeth ac, er
mwyn yr anifeiliaid a’r bobl, dilynwch ein côd
ymddygiad. Yna cewch fod yn sicr o groeso cynnes!
|